Найти книгу: "Y Dychymyg Ol-Fodern"


Y Dychymyg Ol-Fodern Y Dychymyg Ol-Fodern

Автор: Rhiannon Marks

Год издания: 0000

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael a phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ol-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ol-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocad i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg a beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw a thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.